Skip to content
Celebrating 20 Years 1990-2010
Contact Details for Bow Tie Television
OrganisationBow Tie Television Ltd
Work Telephone+44 (0)8454 900 900
Webwww.bowtietv.com
Fax+44 (0)1322 434 762
Address
Unit 5 Belvedere Link Business Park
Viking Way
Belvedere
Kent
DA8 1EW
United Kingdom

Bow Tie Television i ddarlledu o Gynulliad Cenedlaethol Cymru

Wednesday, May 26, 2010

Read English version

Mae Bow Tie Television yn falch i gyhoeddi mai nhw sydd wedi ennill y cytundeb i ddarparu Goruchwyliaeth Ddarlledu a Gwasanaethau Cynhaliaeth ar gyfer Cynulliad Cenedlaethol Cymru a hynny mewn cydweithrediad gyda Telesgop Cyf.

Cwmni darlledu annibynnol a chyfleusterau clyweled yw Bow Tie Television, sy'n darparu staff, adnoddau ac arbenigedd ar gyfer ystod eang o glientiaid yn y sectorau preifat a chyhoeddus.

Fel y cwmni teledu seneddol a chynulliad mwyaf profiadol yn y DU, mae Bow Tie Television wedi darlledu Senedd y DU dros y naw mlynedd ddiwethaf ac Awdurdod Llundain Fawr ers 2006. Dewiswyd Bow Tie Television gan y Swyddfa Gartref i ddarparu sylw ar Ymchwiliad Irac yn Llundain. 

Bydd cytundeb Bow Tie Television gyda Chynulliad Cenedlaethol Cymru yn dechrau o Awst 2il 2010.

Mae Bow Tie Television yn gweithio mewn cydweithrediad gyda Telesgop, cwmni cynhyrchu teledu llwyddiannus wedi ei leoli yn Abertawe, sydd wedi cwblhau nifer o gomisiynau ar gyfer Llywodraeth Cynulliad Cymru. Bydd swyddfa gyda Bow Tie Television ym mhencadlys Telesgop, a fydd yn rhoi mynediad i gynhyrchwyr, cyfarwyddwyr, golygyddion a gweithredwyr camera lleol yn ogystal â thîm gwe-ddylunio sefydledig.

Dywedodd y Rheolwr Gyfarwyddwr John Knopp: "Mae hyn yn gyfle gwych i ni i gynnig dynesiad newydd a bywiocaol ar gyfer rheolaeth y cyferbyniad i'r Cynulliad, gan ddarparu sylw apelgar ac amgen o ddigwyddiadau'r Cynulliad."

"Rydym yn ymroddgar i drio cadw cymaint â phosibl o'r staff a'r gweithwyr annibynnol presennol sy'n dymuno parhau i weithio i ni o fewn y cytundeb. Rydym yn bwriadu adfywio, gwella a sicrhau tyfiant yn y darlledu a'r gwasanaeth gwe-ddarlledu ar gyfer Cynulliad Cenedlaethol Cymru."

Mae Elin Rhys, Rheolwr Gyfarwyddwr Telesgop, wrth ei bodd i fod yn gweithio mewn cydweithrediad gyda Bow Tie Television ar yr antur hwn. " Yn naturiol, mae gennym wir ddiddordeb yng ngweithgareddau Cynulliad Cenedlaethol Cymru ac rydym yn edrych ymlaen at wneud cyfraniad sylweddol i sylw'r wasg gyda'r dynesiad newydd a ffres hwn. Mae Cymru'n haeddu gwasanaeth sy'n dod â materion y Cynulliad yn fyw yn Saesneg a Chymraeg."